Tips Trosglwyddo

  • Gwnewch y penderfyniad i gyflwyno’r Gymraeg i’ch babi cyn y caiff ei eni.
  • Defnyddiwch y Gymraeg gyda’ch babi o’r cychwyn cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych yn rhugl yn y Gymraeg, defnyddiwch be fedrwch chi.
  • Gwyliwch S4C, mae amrywiaeth mawr o raglenni Cymraeg yn apelio at bob oed. Mae gwasanaeth CYW ar gyfer plant bach, STWNSH ar gyfer bobl ifanc, a digon o raglenni gyda’r nos i chi fel oedolyn.
  • Gwyliwch DVDs Cymraeg – mae nifer ar gael i’w benthyg am ddim o’ch llyfrgell leol.
  • Lawr lwythwch apiau Cymraeg i’ch iPad neu ffôn symudol – mae nifer o gemau Cymraeg nawr i blant. Mae gan S4C amrywiaeth o apiau i blant a phobl ifanc.
  • Darllenwch lyfrau Cymraeg gyda’ch babi. Mae nifer o lyfrau dwyieithog bellach ar gael i helpu rhieni sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae casgliad eang o lyfrau Cymraeg yn y llyfrgell leol ac yn y siop lyfrau Cymraeg lleol.
  • Dewiswch ofal plant cyfrwng Cymraeg ble bo hynny’n bosibl.
  • Ewch i’r Cylch Ti a Fi lleol. Cyfle gwych i gymdeithasu a chlywed teuluoedd eraill yn defnyddio’r Gymraeg.
  • Gwrandewch ar CDs Cymraeg yn y car ac yn eich cartref.
  • Canwch yn Gymraeg. Cewch gyfle i ddysgu hwiangerdd a chaneuon syml Cymraeg yn y Cylch Ti a Fi, neu wrth wrando ar CDs.
  • Chwaraewch gemau Cymraeg – mae’r Gymraeg yn hwyl! Gellir prynu nifer o gemau a jig-sos Cymraeg yn eich siop Cymraeg leol, neu ar y we.  Defnyddiwch eich dychymyg, chwaraewch gemau megis “Dwi’n gweld gyda’n llygaid bach i...”. 
  • Ewch i ddigwyddiadau Cymraeg yn eich bro. Mae TWF, Yr Urdd a’r Fenter Iaith yn trefnu nifer o ddigwyddiadau ar gyfer babanod, plant, bobl ifanc a theuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Os nad ydych chi neu eich partner yn siarad Cymraeg yn barod, dyma gyfle euraidd i chi ddechrau dysgu Cymraeg gyda’ch plentyn. Mae gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion wybodaeth am bob math o gyrsiau yn eich ardal. Rhai cyrsiau i deuluoedd, a rhai gyda chyfleusterau meithrinfa.
  • Mae’n bwysig fod eich plentyn yn gweld fod y Gymraeg yn bodoli y tu allan i’r ysgol, felly mynychwch a chefnogwch ddigwyddiadau Cymraeg yn eich cymuned.
  • Dangoswch esiampl i’ch plentyn, gan ddangos fod y Gymraeg yn bwysig i chi trwy ymuno â chymdeithas neu gôr lleol. Mae nifer o famau yn ymuno â’r Clybiau Gwawr er mwyn magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac i gael lot fawr o hwyl!
  • Os ydych yn ceisio cyflwyno mwy o Gymraeg yn eich cartref, beth am ddewis amser neu le penodol i ddefnyddio’r Gymraeg, e.e. siarad Cymraeg amser bath, neu ddarllen llyfrau Cymraeg amser gwely, neu chwarae gemau Cymraeg wrth deithio yn y car.
  • Anogwch ffrindiau, cymdogion ac aelodau o’ch teulu sy’n gallu siarad Cymraeg i wneud hynny gyda’ch plentyn.
  • Os mae cartref dwyieithog sydd gennych chi, mae’r strategaeth ‘Un rhiant, un iaith’ yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd. Mae un rhiant yn defnyddio un iaith gyda’r plant a’r rhiant arall yn defnyddio iaith arall, gyda’r plant yn tyfu fyny i fod yn hyderus ac yn rhugl yn y ddwy iaith.
  • Os oes gan un aelod o’r teulu rhywfaint o Gymraeg yn barod, bydd hyn o fantais fawr, hyd yn oed os nad yw’r unigolyn yma yn rhugl. Mae defnyddio’r Gymraeg gyda’r plentyn yn ffordd wych o ail-ddechrau a magu hyder.
  • Daliwch ati i siarad Cymraeg gyda’ch plentyn, hyd yn oed os ydyn nhw’n ateb yn ôl yn Saesneg am gyfnod. Mae clywed y Gymraeg gennych chi yn gymorth gyda’u datblygiad ieithyddol.