Sir y Fflint

(Daw’r detholiad yma o wybodaeth o ‘Broffil Iaith Gogledd Ddwyrain Cymru’, Cwmni Sbectrwm a gomisiynwyd gan Fentrau Iaith y Gogledd Ddwyrain ym Mawrth 2014.)

Lleoliad ac economi

Mae Sir y Fflint wedi ei leoli yng nghornel Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn ffinio â Lloegr. Mae’n un o’r siroedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, er bod rhai pocedi o dlodi mewn wardiau penodol. Mae ardaloedd diwylliannol llewyrchus yn y sir, gydag un o’r sectorau gweithgynhyrchu mwyaf yn y DU, sy’n cynnwys amrediad o ddiwydiannau megis Cerbydau Modur, Bwyd, Awyrofod, Dur ac Ynni Adnewyddadwy. 

Dros y blynyddoedd, mae ardaloedd gwledig Sir y Fflint, fel amryw o ardaloedd eraill trwy Gymru wedi gweld argyfwng economaidd yn y cymunedau hynny sydd yn ddibynnol ar amaethyddiaeth. Mae hyn wedi bygwth seiliau cymunedau traddodiadol Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig.

Y Gymraeg yn Sir y Fflint

Dengys canlyniadau Cyfrifiad 2011 bod 19,343 o bobl Sir y Fflint yn gallu siarad Cymraeg, sydd yn cyfateb i 13.2% o’r boblogaeth. Mae gostyngiad o 1,256, sef 1.2% wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg ers y cyfrifiad diwethaf yn 2001.

Mae data Cyfrifiad 2011 yn dangos mai yn ardal Yr Wyddgrug (De’r Wyddgrug – 30.6%), Trelawnyd (26.2%) a Threuddyn (24.4%) y ceir y canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

Dengys y map isod ddosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg Sir y Fflint yn ôl canrannau. Gwelir bod rhaniad clir rhwng yr adrannau etholiadol yng ngorllewin y sir, sydd â chanrannau uwch o siaradwyr Cymraeg, a’r rhai yn y dwyrain, yn agos at y ffin â Lloegr.

mapdata.jpg

Ffynhonnell: Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Mae’r tabl isod yn dangos yr adrannau etholiadol sydd â’r canrannau uchaf a’r isaf o siaradwyr Cymraeg yn Sir y Fflint.

 

Adran Etholiadol

% Siaradwyr Cymraeg 2011

De’r Wyddgrug

30.6

Trelawnyd a Gwaunysgor

26.2

Treuddyn

24.4

Ffynnongroyw

22.9

Chwitffordd

20.7

Helygain

20.7

Caerwys

20.3
   

Cei Conna Wepre

9.1

Canol Cei Conna

8.7

Gogledd Ddwyrain Brychdyn

8.5

Saltney Cyffordd yr Wyddgrug

7.8

Seland

7.5

Saltney Stoneybridge

6.1

Oedran siaradwyr cymraeg

Mae gan nifer o bobl y camsyniad mai iaith hen bobl yw’r Gymraeg, ond dengys ffigyrau Cyfrifiad 2011 fod dros 37% o blant 5-15 oed yn Sir y Fflint yn gallu siarad Cymraeg. Dengys y tabl a’r graff isod ddosbarthiad siaradwyr Cymraeg Sir y Fflint yn ôl eu hoedran.

Grŵp Oedran % siaradwyr Cymraeg 2001 % siaradwyr Cymraeg 2011 Nifer siaradwyr Cymraeg 2001 Nifer siaradwyr Cymraeg 2011
Pawb dros 3 oed 14.4 13.2 20,599 19.343
3-­4 10.3 14.4 382 545
5-9 32.7 33.1 3,138 2,768
10-14 42.2 38.9 4,270 3,499
15-19 27.4 24.2 2,521 2,298
20-24 13.8 12.8 1,082 1,152
25-29 12.2 10.4 1,103 892
30-34 9.0 11.2 1,012 938
35-39 8.7 10.4 1,036 1,009
40-44 7.9 8.8 818 1,005
45-49 7.7 8.0 736 939
50-54 7.5 7.6 857 767
55-59 7.7 7.1 718 674
60-64 8.3 6.5 665 721
65-69 9.1 7.1 581 597
70-74 9.8 7.0 552 476
75-79 10.3 8.6 464 426
80+ 11.8 9.6 664 637

image4.jpgFel y gwelir, ceir y canrannau mwyaf yn medru’r Gymraeg yn y grŵp oedran 5-15. Mae hyn yn ddi-os yn adlewyrchu dylanwad y gyfundrefn addysg ar sgiliau ieithyddol plant oed ysgol. Mae’r cynnydd yn y grŵp oedran 3-4 oed, o 10.3% i 14.4% yn galonogol ac yn dangos dylanwad posibl y teulu estynedig o ran cyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc, a gallai adlewyrchu cyfraniad Mudiad Meithrin.

Trosglwyddiad iaith yn y cartref

Mae arbenigwyr iaith ar draws y byd yn pwysleisio mai diffyg trosglwyddiad iaith yn y cartref a diffyg defnydd o’r iaith o fewn y teulu yw un o’r prif ffactorau sy’n bennaf gyfrifol am ddirywiad iaith, ac yn hynny o beth nid yw’r Gymraeg yn eithriad. Mae Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru, Iaith fyw: iaith byw a nifer o brosiectau sy’n cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd teuluoedd mewn cynllunio ieithyddol.

Dengys y graff isod bod nifer y plant sy’n medru’r iaith yn Sir y Fflint mewn cartrefi cwpwl gyda dau oedolyn yn siarad Cymraeg wedi codi o 44 i 52 ers 2001. Mewn cartrefi rhiant unigol sy’n siarad Cymraeg mae’r nifer wedi aros yr un fath. Ceir y newid mwyaf calonogol fodd bynnag yn y cynnydd mewn trosglwyddiad iaith mewn cartrefi gyda chwpl gydag un oedolyn yn siarad Cymraeg, sydd wedi codi o 100 yn 2001 i 142 yn 2011. Mae’r cynnydd mewn cartrefi heb un oedolyn yn medru’r iaith hefyd yn arwyddocaol iawn – gyda bron i 100 yn fwy o blant wedi caffael yr iaith dros y degawd diwethaf.

nifer.jpg

Ffynhonnell: Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Addysg Gymraeg

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Adran Addysg Sir y fflint, 6.9% o blant saith oed sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Ar sail asesiadau athrawon, barnwyd bod 95 o ddisgyblion yn siarad Cymraeg iaith gyntaf yn 2011 a 113 o ddisgyblion yn 2012. Nod y Cyngor Sir yw cynyddu hyn gan 2% bob blwyddyn.

Cynhaliodd y Cyngor Sir yr arolwg diweddaraf o’r galw am addysg Gymraeg yn Ebrill 2009. Roedd yr arolwg yn targedu rhieni oedd â phlant 2 oed ac iau yn y flwyddyn honno. Dywedodd 22% o’r ymatebwyr y byddent yn debygol o anfon eu plant i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd ac roedd hyn yn codi i 33% os oedd y ddarpariaeth o fewn 2 filltir o’u cartrefi.