Ruth a Jon

Mae Ruth a Jon yn byw ym Mhen-y-ffordd. Ni aethant drwy addysg cyfrwng Cymraeg eu hunain. Mae ganddynt ddau fab.

“Mi oedd yn benderfyniad anodd iawn i ddanfon ein bechgyn i’r ysgol Gymraeg. Poenais na fuaswn i’n gallu helpu efo’u gwaith cartref, ac y buasai eu Saesneg yn dioddef. Does neb yn ein teulu ni yn siarad Cymraeg. Ond, fel mam newydd roeddwn i eisiau’r gorau i fy mhlant, felly holais drigolion ein pentref am ysgolion Cymraeg. Roedden nhw’n llawn clod am ein hysgol Gymraeg leol. Gan ystyried eu sylwadau, siaradais gyda’r ymwelydd iechyd.  Eglurodd hi fod siarad Cymraeg yn fantais fawr yn yr ardal yma wrth geisio am swyddi, ac aeth hi ymlaen i egluro bod ymennydd plentyn fel sbwng - yn sugno gymaint o wybodaeth ag y gallai.  Ffoniais bennaeth ein hysgol leol, a chefais wahoddiad i ymweld â’r ysgol a fe wnaeth hi ddileu fy holl bryderon.  Ar ôl y cyfarfod oeddwn i’n benderfynol!  Roedd meintiau llai'r dosbarthiadau yn golygu bod gan yr athrawon fwy o amser i dreulio gyda’r plant, ac yng nghefn fy meddwl, gwyddwn os oedd fy mhlentyn yn cael trafferth gyda’i ieithoedd roedd hi dal yn bosibl i’w symud i ysgol Saesneg, ond o leiaf y byddai wedi cael cyfle trwy’r Gymraeg.

Rho gynnig arni!!! Mae fy mhlant i bellach yn siarad Cymraeg heb ymdrech. Mae fy mab hynaf yn yr ysgol uwchradd, ac yn dysgu Ffrangeg yn rhwydd, a dw i’n credu bod hyn o ganlyniad iddo ddysgu iaith arall o oed ifanc. Dw i’n falch iawn o be mae fy mhlant wedi ei gyflawni, ac yn sicr ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir ynghylch eu hysgol.

Saesneg yw’r iaith a siaredir yn ein cartref, ond mae’n wych i glywed ein bechgyn yn cyfathrebu efo siaradwyr Cymraeg eraill. Mae o fel petai ganddyn nhw switch ac maen nhw’n medru newid o un iaith i’r llall mewn chwinciad chwannen... Bendigedig!!!”

Bronwen 

Cafodd Bronwen ei geni yn Aberystwyth, ond bellach mae hi’n byw gyda’i gŵr a’u mab yn Sir y Fflint.

“Cefais fy ngeni yn Aberystwyth, ond symudais i Sir y Fflint pan oeddwn yn 13. Mae fy ngŵr o Runcorn, a heb ddysgu siarad Cymraeg.  Siaradais Gymraeg gyda fy Mam, Taid a Nain, ond roedd fy addysg trwy gyfrwng y Saesneg. 

Dewisodd ein mab fynd i Ysgol Uwchradd Maes Garmon, trwy’r ‘Cwrs Trochi’. Cwrs yw hwn sy’n cael ei gynnig i ddisgyblion blwyddyn 6 sy’n mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, ond sydd am fynd i ysgol uwchradd Gymraeg.  

I ddechrau roedd yna noson agored wedi’i thargedu’n benodol ar gyfer “dysgwyr”, ac ar ddechrau mis Mehefin cafodd y criw dysgwyr fynd i'w hysgol newydd ar gyfer cwrs trochi 5 wythnos, gan gynnwys wythnos breswyl yng ngwersyll yr Urdd, Glan Llyn. Ein mab ni oedd yr unig un o’i ysgol gynradd i ddewis y cwrs trochi, a mwynhaodd o’r cychwyn cyntaf gan wneud ffrindiau newydd a chael dod i adnabod yr athrawon cyn i flwyddyn 7 dechrau. Mae’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno mewn ffordd hwyliog, efo llawer o gemau a gweithgareddau. 

Mae’r athrawon yn gefnogol iawn o’r dysgwyr.  Mae ein mab wedi dysgu’r un pynciau a chyrraedd yr un lefel â’r plant eraill oedd yn yr ysgol gynradd ag o sydd wedi mynd i addysg uwchradd ddi-gymraeg, ond mae ganddo fo’r fantais rŵan o fod yn ddwyieithog. Er iddo ddysgu trwy gyfrwng iaith newydd, nid yw ei lefelau ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol wedi gostwng. Mae maint y dosbarth yn fach iawn, felly mae’r plant yn cael mwy o sylw ac yn magu perthynas dda gyda’r athrawon. Yn barod mae ein mab yn sôn am astudio Lefelau Uwch trwy’r Gymraeg. Dw i’n hapus i argymell Ysgol Maes Garmon i rieni sy’n ystyried y cwrs trochi.” 

Lowri

Mae Lowri yn gyfreithiwr. Mae ganddi dri phlentyn sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn Yr Wyddgrug.  

“Rwy’n dod o Abertawe yn wreiddiol. Roedd Mam wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, a Dad wedi gwneud ymdrech dda i ddysgu, felly magwyd fi a fy chwaer yn ddwyieithog. Es i ysgolion cyfrwng Cymraeg cyn symud i Loegr i’r brifysgol.

Credaf fod siarad Cymraeg yn hynod o bwysig gan ei fod yn hybu teimlad cryf o fod yn perthyn i gymuned leol, yn ogystal â hanes a diwylliant cenedl.  Mae’n iaith gyfoethog ac yn brydferth. Mae plentyn dwyieithog yn gallu cysylltu â phob agwedd o’i gymuned a’i genedl. Mae dwyieithrwydd hefyd yn helpu plentyn i ymgymryd ag ieithoedd eraill ac i fod yn ymwybodol o wledydd a diwylliannau eraill ledled y byd.”