Ap Newydd Sbon i Helpu Plant Ddysgu Darllen Yn Gymraeg! Am Ddim!

Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn cyflwyno apiau newydd i helpu disgyblion mamiaith ac ail iaith i ddysgu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen. Mae un ap gyda 12 stori syml (Llyfrau bach Magi Ann) yn benodol ar gyfer disgyblion ail iaith, sydd ddim yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae 3 ap (Llyfrau hwyl gyda Magi Ann, Set 1, 2 a 3) hefyd gyda 26 stori syml i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ac mae mwy i ddod yn fuan!

Magi Ann oedd hoff ddoli merch fach o'r enw Mena. Ar ôl tyfu fyny, cafodd Mena waith fel athrawes yn Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon. Er mwyn helpu'r plant bach i ddysgu darllen, fe aeth ati i ysgrifennu 56 o lyfrau Magi Ann.

Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn cyflwyno Magi Ann am y tro cyntaf mewn lliw ac wedi ei animeiddio.

Dewch i ddysgu darllen gyda Magi Ann, Pero, Tedi, Doli a Dicw!

Cyfarwyddiadau Lawr Lwytho

Gellir lawr lwytho apiau Magi Ann am ddim o’r AppStore ar blatfform IOS ac android ar gyfer eich cyfrifiadur tabled, iPad, iPhone neu ffôn symudol android. Chwiliwch am ‘Magi Ann’ yn yr AppStore. 

Unwaith mae’ch plentyn wedi mwynhau a meistroli darllen llyfrau Magi Ann, edrychwch am y gyfres nesaf yn yr AppStore i’w lawr lwytho.

Gellir hefyd mwynhau’r llyfrau ar y wefan yma, yn o gystal ag ychydig o gemau hwyliog gyda Magi Ann a’i ffrindiau.

Google_Play_Store_96.png

Download_on_the_App_Store_Badge_US-UK_135x40.svg

Cyfarwyddiadau Defnyddio’r Apiau

  • Dewiswch stori o’r flaenddalen.
  • Anogwch eich plentyn i ddarllen straeon Magi Ann fel llyfr traddodiadol, gan dapio’r saeth ar y dde i symud ymlaen i’r dudalen nesaf.
  • Cliciwch y botwm Cymraeg i wrando ar y stori.
  • Cliciwch y botwm Saesneg i weld cyfieithiad o’r testun.
  • Tapiwch ar eiriau unigol i glywed sut i ynganu geiriau unigol yn gywir, ac i weld cyfieithiad o’r geiriau unigol neu gymal o’r frawddeg.
  • Mwynhewch ddarllen gyda’ch plentyn!