Mae dwyieithrwydd yn fantais i’ch plentyn

  • Dydy siarad mwy nag un iaith ddim yn beth anghyffredin – mae rhwng 60% a 75% o boblogaeth y byd yn siarad mwy nag un iaith. 

Addysg

  • Does dim rhaid i chi fel rhiant fod yn rhugl neu’n hyderus yn y Gymraeg er mwyn anfon eich plentyn i ysgol Gymraeg. Mae 64% o blant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint yn dod o deuluoedd lle nad yw Cymraeg yn cael ei siarad yn y cartref*. Mae’n berffaith bosib i blant ffynnu heb fod eu rhieni yn siarad Cymraeg gyda nhw – ond os medrwch, mi fydd o’n fwy o fantais fyth iddyn nhw! 
  • Mae plant yn caffael ar iaith - mae’n llawer haws i faban neu blentyn ifanc ddysgu iaith nag yw hi i oedolion. 
  • Mae dwyieithrwydd yn gwneud dysgu ieithoedd tramor yn haws o lawer, ac yn fantais glir yn yr ysgol uwchradd a’r brifysgol.
  • “Mae ymchwil o nifer o wledydd gwahanol yn dangos fod disgyblion dwyieithog yn tueddu i wneud yn well mewn profion IQ ac asesiadau creadigol.” Yr Athro Colin Baker, Arbenigwr Rhyngwladol mewn Addysg Ddwyieithog.

Cydeithasol

  • Mae plentyn sy’n gallu siarad dwy iaith yn gallu cymdeithasu a chyfathrebu gydag amrywiaeth ehangach o bobl, a fydd yn arwain at fywyd cymdeithasol llawer mwy amrywiol.
  • Mae dwyieithrwydd yn ehangu gorwelion plant, gan fod ganddynt fynediad i ddau ddiwylliant, dwy ffordd o feddwl a’r cyfle i chwarae rhan lawn yn y gymuned leol.
  • Mae ymchwilwyr o Ganada wedi profi fod dwyieithrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ymennydd gan ei gadw’n weithgar wrth heneiddio. Dangoswyd hefyd bod dwyieithrwydd yn lleihau’r tebygolrwydd o ddatblygu dementia.

Gyrfa

  • Cyfleoedd byd gwaith - mae cyflogwyr yn gynyddol edrych am weithlu sydd yn meddu ar sgiliau dwyieithog cyflawn. Mae astudiaethau yn dangos bod unigolion sydd â sgiliau iaith Gymraeg yn ennill rhwng 9 - 11% yn fwy na phobl uniaith.**

 

*Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) Ionawr 2011

** Gyrfa Cymru