Mudiadau Cefnogol

Menter Iaith Sir y Fflint

Bwriad Menter Iaith yw cynnal a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sir. Mae’r Fenter yn cefnogi teuluoedd dwyieithog trwy gynnig gwybodaeth a gweithgareddau. 

Menter Iaith Sir y Fflint, Corlan, Uned 3, Parc Busnes Yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, CH7 1XP

01352 744040

gwybod@menteriaithsiryfflint.co.uk
www.menteriaithsiryfflint.co.uk

TWF

Mae Twf yn gynllun sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i famau beichiog a’u teuluoedd ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref.

Mae Twf yn cynnig Sesiynau Canu Amser Twf a chyrsiau Tylino Babi sy’n gyfle i chi gyflwyno Cymraeg i’ch babi trwy ganeuon, hwiangerddi a storiau. 

07875 261748 

wrecsam@twfcymru.org
www.twfcymru.com 

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

Cymdeithas genedlaethol yw RhAG sydd am gefnogi a datblygu ysgolion Cymraeg ac am roi cyfle cyfartal i’r rhai sy’n dymuno rhoi addysg Gymraeg i’w plant. 

RhAG, Tŷ Cymru, Greenwood Close, Parc Busnes Porth Caerdydd, Caerdydd, CF23 8RD 

02920 739207
07912 175403 

ceri@rhag.net 
www.rhag.net 

Sir y Fflint dros
Addysg Gymraeg

Sefydlwyd SYFFLAG er mwyn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint. Mae pob un o'r pum ysgol gynradd Cymraeg yn y sir yn cael eu cynrychioli yn y grŵp. 

admin@syfflag.org
www.syfflag.org 

Yr Urdd

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan ac yn croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd 

Swyddfa'r Urdd, Canolfan Gymunedol Pentre Cythraul, Ffordd Moel Fammau, Pentre Cythraul, Sir y Fflint, CH7 6QX

07976003323

Darrenm@urdd.org
www.urdd.org   

Mudiad
Meithrin 

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae'n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol.  Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

CYLCHOEDD TI A FI 

Dyma gyfle gwych i blant o enedigaeth hyd at oed ysgol a’u rhieni gwrdd i gymdeithasu, rhannu profiadau ac i chwarae gyda’i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig. 

CYLCHOEDD MEITHRIN 

Mae’r cylchoedd meithrin yn cynnig sesiynau gofal ac addysg ddyddiol ar gyfer plant 2 - 4 mlwydd oed.

Mudiad Meithrin, Swyddfa Gogledd Ddwyrain Cymru, Uned B, Pentref Busnes Ial, Elice Way, Wrecsam, LL13 9YL

01978 363422

www.meithrin.co.uk 

Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru

Y Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn y Gogledd sy’n gyfrifol am gydlynu'r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ar draws Gogledd Cymru, gan weithio gydag 8 o ddarparwyr annibynnol i sicrhau'r safonau uchaf o ran ansawdd dysgu. Maent hefyd yn gweithredu fel siop-un-stop ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn y rhanbarth ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i'w rhoi ar y trywydd cywir ac i gael y profiad dysgu gorau bosibl.

Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Dysgu Gydol Oes, Stryd y Deon, Bangor, LL57 1UT 

01248 383928

www.learncymraeg.org

Merched y Wawr
Clybiau Gwawr 

Mae Merched y Wawr yn fudiad cenedlaethol i ferched Cymru, gyda changhennau ar draws ac ar led y wlad. Mae’r canghennau yn cyfarfod yn fisol ac yn gyfle i ferched o bob oed gymdeithasu a meithrin diddordebau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Clybiau Gwawr yn rhan o’r mudiad hwn, ond wedi anelu at ferched ifanc ac ifanc eu hysbryd i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg unwaith y mis mewn tafarn neu glwb.  Mae cyfle i gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau amrywiol yn eich clwb ac yn genedlaethol, cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i godi arian at achosion da a chael llawer o hwyl!

01978 762 243

www.merchedywawr.co.uk
www.clybiaugwawr.com
bronwenclwbgwawr@hotmail.co.uk