Mae athrawon ysgolion cyfrwng Cymraeg yn arbenigo ar ddysgu iaith. Pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y meithrin, bydd yr athrawon yn sicrhau eu bod yn deall popeth. Mae plant yn caffael y Gymraeg heb unrhyw ymdrech – maen nhw fel sbwng yn amsugno’r iaith yn ddidrafferth! Pan fydd eich plentyn yn gadael yr ysgol, mi fydd yn hollol ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gan amlaf, mae un iaith yn helpu’r llall. Mae cael dau air ar gyfer popeth yn help i fedru meddwl yn fwy agored a chreadigol ac mae hynny’n help mawr wrth ddysgu. Mae bod yn ddwyieithog hefyd yn ei gwneud hi’n haws dysgu trydedd iaith yn nes ymlaen.
Mae’r Ysgol yn rhoi cefnogaeth lawn i’r plentyn ac yn hapus i gyfathrebu gyda chi yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Fel rhiant y gefnogaeth fwyaf y gallwch roi i’ch plentyn yw eu hannog a’u canmol yn eu hymdrechion. Beth am gymryd y cyfle hwn i ddechrau dysgu’r iaith eich hunain? Bydd annog eich plentyn i fynychu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg a gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C yn cefnogi cynnydd eich plentyn. Cofiwch fod llyfrau Cymraeg, CDs, DVDs ac apiau Cymraeg ar gael hefyd. Mi fydd eich plentyn yn dysgu caneuon a brawddegau Cymraeg mewn dim o dro – dysgwch a chanwch gyda’ch plentyn!
Bydd gwaith cartref eich plentyn yn cael ei egluro’n llawn a gallwch gynorthwyo gyda sgiliau, megis rhifedd. Cofiwch, mae staff yr ysgol yno i’ch cefnogi, felly os oes unrhyw broblemau, gofynnwch am gyngor!
Erbyn y bydd eich plentyn yn 3-4 oed, mi fyddan nhw’n gallu cyfieithu i chi. Mae gwaith ymchwil yn dangos fod plant sy’n gorfod cyfieithu tasgau ar gyfer eu rhieni yn meithrin dealltwriaeth bellach o’r pwnc, gan fod y broses o gyfieithu yn atgyfnerthu’r pwnc yn meddwl y plentyn.
Mwy na thebyg, mi fydd rhywfaint o gymysgu ieithoedd yn digwydd am gyfnod, ond mae hyn yn rhan naturiol o’r broses. Wrth i eirfa’ch plentyn ddatblygu yn y ddwy iaith mi fydd y cymysgu hwn yn diflannu gydag amser. Mae cymysgu ac arbrofi gyda geiriau yn rhan naturiol o ddysgu unrhyw iaith – dyw hyn ddim yn golygu bod eich plentyn wedi drysu.
Mewn ysgol benodedig Gymraeg caiff eich plentyn glywed y termau yn Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg, felly peidiwch â phoeni ynghylch ei Saesneg. Yn wir, os rhywbeth mae’r dull deublyg hwn yn esgor ar well dealltwriaeth o’r cysyniadau.
Does dim terfyn ar allu plant bach i ddysgu iaith; mewn rhai gwledydd mae plant yn dysgu hyd at dair, pedair neu fwy o ieithoedd.
Mae sgiliau dwyieithog yn fwyfwy pwysig o fewn swyddi llywodraeth cenedlaethol a lleol, y Gwasanaeth Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, siopau a nifer o wasanaethau eraill. Dim ond ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yn sicrhau fod eich plentyn yn cael mantais lawn o allu siarad y ddwy iaith yn rhugl. Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg am roi mantais glir i’ch plentyn wrth ymuno â’r farchnad gwaith. Rhoddodd Mesur y Gymraeg 2011 statws swyddogol i’r Gymraeg gan osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. O ganlyniad mae cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a mudiadau gwirfoddol yn edrych am staff sy’n gallu perfformio’n effeithlon yn y ddwy iaith.
Mi fydd eich plentyn yn datblygu cyfeillgarwch yn yr ysgol, a bydd yn llwyddo i gymysgu’n effeithiol gyda chyfeillion Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Mi fydd eich plentyn yn elwa o allu cyfranogi’n llawn mewn gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol yn y ddwy iaith.
Ar ôl gorffen ysgol gynradd, mae disgyblion Sir y Fflint yn trosglwyddo i Ysgol Maes Garmon – yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Yr Wyddgrug. Mae cyfle hefyd i ddisgyblion sydd heb fynychu addysg gynradd cyfwng Cymraeg i fynychu Ysgol Maes Garmon trwy’r Cynllun Trochi. Mae canmoliaeth uchel i’r ysgol am eu llwyddiannau academaidd yn ogystal â’u gofal bugeiliol.
Gellir gweld copi o Bolisi Iaith Gymraeg ar gyfer Pob Ysgol Cyngor Sir y Fflint wrth ymweld â gwefan y cyngor (http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Welsh-Medium-School-Places.aspx).
Oes, a gellir gweld copi o Gynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2014-2017 wrth ar wefan y cyngor (http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Home.aspx).