Croeso!

Mae’n bleser cael eich croesawu chi, rieni a darpar rieni Sir y Fflint, i’r wefan unigryw hon. Prif amcan y wefan yw cyflwyno gwybodaeth am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir, cefnogaeth i rieni sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg,  ynghyd â manteision cyffredinol dwyieithrwydd. Mae’n adnodd unigryw oherwydd ei fod wedi’i dargedu at bobl Sir y Fflint trwy seilio’r cynnwys yn uniongyrchol ar brofiadau personol rhieni’r ardal.

Penderfynu ar addysg eich plentyn fydd un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch fel rhiant. Mae’r wefan hon yn manylu darpariaeth addysg Gymraeg y sir, ac yn cyflwyno mudiadau eraill sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar bob math o agweddau’n ymwneud â’r Gymraeg wrth i chi bwyso a mesur eich dewisiadau. 

Mae mwy a mwy o deuluoedd yn Sir y Fflint yn mwynhau’r manteision sy’n dod o ddwyieithrwydd. Cyflwynir rhai o’u straeon yma, fel tystiolaeth bod plant (a’u rhieni hefyd!) wir yn cael budd o addysg cyfrwng Cymraeg. Trwy ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, byddwch yn sicrhau y bydd eich plentyn yn tyfu fyny’n gyfan gwbl ddwyieithog. 

Felly peidiwch â meddwl ddwywaith cyn mentro - ewch amdani - wnewch chi ddim difaru!

Ap Newydd Sbon i Helpu Plant Ddysgu Darllen Yn Gymraeg! Am Ddim!

Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn cyflwyno apiau newydd i helpu disgyblion mamiaith ac ail iaith i ddysgu darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen. Mae un ap gyda 12 stori syml (Llyfrau bach Magi Ann) yn benodol ar gyfer disgyblion ail iaith, sydd ddim yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae 3 ap (Llyfrau hwyl gyda Magi Ann, Set 1, 2 a 3) hefyd gyda 26 stori syml i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg... ac mae mwy i ddod yn fuan!

Magi Ann oedd hoff ddoli merch fach o'r enw Mena. Ar ôl tyfu fyny, cafodd Mena waith fel athrawes yn Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon. Er mwyn helpu'r plant bach i ddysgu darllen, fe aeth ati i ysgrifennu 56 o lyfrau Magi Ann.

Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn cyflwyno Magi Ann am y tro cyntaf mewn lliw ac wedi ei animeiddio.

Dewch i ddysgu darllen gyda Magi Ann, Pero, Tedi, Doli a Dicw!

Diolchiadiau

Diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm gyda’r prosiect i ddod a Magi Ann a’i ffrindiau i’ch sgrin.

Diolch i Mrs Nia Connah, Ysgol Terrig Treuddyn am y syniad gwreiddiol a’r fflach o ysbrydoliaeth i ddechrau’r prosiect uchelgeisiol hwn.

Diolch i Athrawon Ymgynghorol Y Gymraeg Sir Ddinbych am eu caniatâd i ddatblygu’r llyfrau du a gwyn a fu mor boblogaidd gyda disgyblion ar draws y Gogledd Ddwyrain a thu hwnt ers yr 80au!

Diolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi cael llond gwlad o hwyl yn recordio’r troslais ar gyfer y llyfrau. Prin a glywir acen hyfryd Sir y Fflint ar y cyfryngau, ac felly dyma gyfle euraidd i’n plant wrando ar leisiau naturiol ein bro yng nghwmni Magi Ann a’i ffrindiau. Diolch i Ann Jones, Sychdyn, Anne Jones, Trelogan, Ben Elias, Cei Connah, Bryn Davies, Rhes-y-cae, Elwyn Roberts, Yr Wyddgrug, Gareth (Gaj) Williams, Yr Wyddgrug, Gemma Gardner, Pontblyddyn a Liz Carter-Jones, Yr Wyddgrug am gael benthyg eu lleisiau persain!

Diolch i gwmni SOH am gael defnyddio’u stiwdio recordio sain am ddim, ac i un gŵr yn arbennig a roddodd oriau o’i amser yn wirfoddol i sicrhau sain o’r safon uchaf, yr unigryw Mr Tony Banjo Kensall.

Galeri

Diolchiadiau

Diolch i Nia Wyn Jones, Bwcle am ei llygaid craff yn prawf-ddarllen popeth.

Diolch i Emma Lloyd a Caryl Parry Humphreys, Swyddogion Maes Cynorthwyol Menter Iaith Sir y Fflint (y minions) am eu holl gefnogaeth ac amser yn sganio lluniau.

Diolch arbennig i hogie Cwmni Sbectol, ac yn enwedig Siôn Maffia Jones a Simon Beech am wireddu ein holl ddymuniadau a dod a Magi Ann yn fyw ar ein sgrin.

Diolch i Jac (3 oed) am ddod a gwen i'n hwynebau gyda'i lais bach siriol a swynol ar arwyddgân Magi Ann.

Diolch i Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Sir y Fflint am lywio’r prosiect a chadw trefn ar bawb!

Ac yn olaf, diolch i un ddynes arbennig iawn, sef Mena Evans, awdures y llyfrau, crëwr a mam Magi Ann. Heb ei dychymyg lliwgar hi, ni fyddai’r prosiect erioed wedi gweld golau dydd.

Mae Magi Ann wedi gweithio’i ffordd i mewn i galonnau pawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect hwn. Gobeithiwn y bydd Magi Ann yn gwneud ffrindiau gyda theuluoedd a phlant ar draws Sir y Fflint ac ar hyd a lled Cymru yn sgil y prosiect yma!

Galeri